Ydy Tystion Jehofa yn Rhoi Pwysau ar Bobl i Newid eu Crefydd?
Nac ydyn. Rydyn ni wedi mynegi yn ein prif gylchgrawn Y Tŵr Gwylio: “Mae rhoi pwysau ar bobl i newid eu crefydd yn anghywir.” a Rydyn ni’n osgoi rhoi pwysau ar bobl am y rhesymau canlynol:
Ni roddodd Iesu unrhyw bwysau ar bobl i dderbyn ei ddysgeidiaethau. Roedd yn gwybod y byddai dim ond ychydig o bobl yn ymateb i’w neges. (Mathew 7:13, 14) Ar un adeg, pan gafodd nifer o ddisgyblion Iesu eu pechu oherwydd ei eiriau, gadawodd iddyn nhw fynd yn hytrach na’u gorfodi i aros.—Ioan 6:60-62, 66-68.
Dysgodd Iesu ei ddisgyblion i osgoi gwasgu ar eraill i newid eu daliadau. Yn hytrach na cheisio gorfodi eraill i dderbyn y newyddion da am y Deyrnas yn erbyn eu hewyllys, roedd ei ddisgyblion yn ceisio darganfod pobl a fyddai’n ymateb yn dda i’w neges.—Mathew 10:7, 11-14.
Nid yw Duw yn derbyn addoliad gan rywun sydd wedi ei orfodi, yr unig fath o addoliad y mae’n ei dderbyn yw addoliad o’r galon.—Deuteronomium 6:4, 5; Mathew 22:37, 38.
Ydyn ni’n ceisio newid crefyddau pobl?
Mae’n wir ein bod ni’n rhannu neges y Beibl “hyd eithaf y ddaear,” gan wneud hynny’n ‘gyhoeddus ac mewn cartrefi,’ fel y gorchmynnwyd yn y Beibl. (Actau 1:8; 10:42; 20:20) Yn debyg i’r Cristnogion cynnar, rydyn ni weithiau yn cael ein cyhuddo o geisio newid crefyddau pobl yn anghyfreithlon. (Actau 18:12, 13) Nid yw’r cyhuddiadau hyn yn wir. Nid ydyn ni’n ceisio gorfodi ein daliadau ar neb. Yn hytrach, credwn y dylai pobl gael cyfle i dderbyn gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad deallus.
Nid ydyn ni’n rhoi pwysau ar bobl i newid eu crefyddau, nac yn gwneud gweithgareddau gwleidyddol ar gefn enw crefyddol, na chynnig manteision materol neu gymdeithasol er mwyn denu rhai newydd. Mae hyn yn gwbl groes i’r rhai sy’n honni eu bod nhw’n Gristnogion, ond sydd wedi amharchu Crist drwy wneud y fath bethau. b
Oes gan berson yr hawl i newid ei grefydd?
Oes, mae’r Beibl yn dangos bod gan bobl yr hawl i newid eu crefydd. Mae’n sôn am nifer o unigolion a ddewisodd beidio â dilyn crefydd eu rhieni, unigolion a benderfynodd addoli’r gwir Dduw allan o’u hewyllys rhydd. Mae Abraham, Ruth, Paul, a rhai o ddinasyddion Athen yn esiamplau o hyn. (Josua 24:2; Ruth 1:14-16; Actau 17:22, 30-34; Galatiaid 1:14, 23) Hefyd, mae’r Beibl yn cydnabod hawl unigolyn i ddilyn y llwybr ffôl o gefnu ar yr addoliad y mae Duw wedi ei gymeradwyo.—1 Ioan 2:19.
Mae’r hawl i newid crefydd yn cael ei chefnogi gan y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, sef y Datganiad mae’r Cenhedloedd Unedig wedi ei alw’n “sylfaen pob cyfraith ryngwladol o hawliau dynol.” Mae’r ddogfen honno yn adrodd bod gan bawb y ‘rhyddid iddynt newid eu crefydd neu eu cred’ ac “i amlygu eu crefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau,” gan gynnwys defodau crefyddol. c Wrth gwrs, mae’r hawliau hyn yn golygu bod cyfrifoldeb ar bawb i barchu hawl eraill i gadw eu credoau ac i wrthod syniadau nad ydyn nhw’n cytuno â nhw.
Ydy newid crefydd yn amharchu traddodiadau teuluol?
Nid o reidrwydd. Mae’r Beibl yn ein hannog i barchu pawb, beth bynnag yw eu crefydd. (1 Pedr 2:17) Hefyd, mae Tystion Jehofa yn dilyn gorchymyn y Beibl i barchu eu rhieni, hyd yn oed os yw eu credoau yn wahanol.—Effesiaid 6:2, 3.
Er hynny, nid pawb sy’n cytuno â safbwynt y Beibl. Dywedodd un ddynes a gafodd ei magu yn Sambia: “Yn fy nghymuned i, roedd newid crefydd . . . yn cael ei weld fel anffyddlondeb, fel cefnu ar eich teulu a’ch cymuned.” Daeth y ddynes hon wyneb yn wyneb â’r broblem hon yn ystod ei harddegau, ar ôl iddi ddechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa a phenderfynu newid ei chrefydd. Meddai hi: “Dywedodd fy rhieni dro ar ôl tro fy mod yn destun siom iddyn nhw ac yn eu pechu. Mae cymeradwyaeth fy rhieni yn bwysig i mi, felly roedd hyn yn anodd iawn. . . . Er imi ddewis ufuddhau i Jehofa yn lle traddodiadau crefyddol, doeddwn i ddim yn amharchu fy nheulu.” d
a Gweler Y Tŵr Gwylio 1 Ionawr 2002, tudalen 12, paragraff 15.
b Er enghraifft, tua’r flwyddyn 785 OG, gorchmynnodd Siarlymaen y dylai pawb yn Sacsoni a wrthododd gael eu bedyddio’n Gristion gael eu lladd. Hefyd, arwyddwyd cytundeb Heddwch Augsburg yn 1555 OG gan bleidiau ymhlith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Un amod o’r cytundeb oedd i bob rheolwr ardal fod yn aelod o’r Eglwys Lwtheraidd neu’r Eglwys Rufeinig, ac roedd rhaid i bawb o dan y rheolwr hwnnw fabwysiadu ei grefydd ef. Roedd rhaid i’r rhai a wrthododd newid eu crefydd symud o’r wlad.
c Mae hawliau tebyg wedi eu cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yr African Charter on Human and Peoples’ Rights, yr American Declaration of the Rights and Duties of Man, y 2004 Arab Charter on Human Rights, yr ASEAN (Association of Southeast Asian Nations) Human Rights Declaration, a’r International Covenant on Civil and Political Rights. Ond, mae hyd yn oed gwledydd sy’n honni eu bod yn rhoi’r fath hawliau yn medru amrywio yn faint maen nhw’n fodlon cefnogi’r cytundebau hynny.
d Yn ôl y Beibl, enw’r gwir Dduw yw Jehofa.