Neidio i'r cynnwys

Warwick—Oriel Luniau 3 (Rhwng Ionawr ac Ebrill 2015)

Warwick—Oriel Luniau 3 (Rhwng Ionawr ac Ebrill 2015)

Yn yr oriel luniau hon, fe welwch sut mae’r gwaith ar bencadlys Tystion Jehofa wedi dod yn ei flaen rhwng Ionawr ac Ebrill 2015.

Model cyfrifiadurol o ganolfan Warwick. Yn glocwedd o’r gornel chwith uchaf:

  1. Adeilad Trwsio Cerbydau

  2. Parcio i Ymwelwyr

  3. Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

  4. Neuadd Breswyl B

  5. Neuadd Breswyl D

  6. Neuadd Breswyl C

  7. Neuadd Breswyl A

  8. Swyddfeydd

2 Ionawr 2015—Adeilad Trwsio Cerbydau

Harold Corkern, sydd yn gynorthwywr i Bwyllgor Cyhoeddi’r Corff Llywodraethol, yn rhoi anerchiad dan y teitl “Cyflawni Eich Potensial.” Ceir anerchiadau rheolaidd i galonogi’r gweithwyr yn Warwick.

14 Ionawr 2015​—Swyddfeydd

Mae llenni plastig gwyn yn cadw’r gweithwyr yn gynnes ac yn caniatáu i’r gwaith fynd yn ei flaen drwy’r gaeaf. Yn y rhan hon o’r adeilad bydd ffreutur, meddygfa, cegin, a golchdy.

16 Ionawr 2015​—Neuadd Breswyl D

Trydanwyr yn dechrau weirio. Mae mwy na 12,000 metr (40,000 troedfedd) o geblau eisoes wedi eu gosod yn y neuaddau preswyl. Dechreuodd y gwaith trydanol yn fuan ar ôl prynu’r safle, a bydd yn parhau hyd ddiwedd y prosiect.

16 Ionawr 2015​—Neuadd Breswyl A

Gweithiwr yn defnyddio tâp i baratoi balconi cyn triniaeth dal dŵr. Yma, mae balconïau ar y llawr uchaf yn cael eu trin â polymethyl methacrylate (PMMA)​—pilen dal dŵr y gellir ei thaenu’n gyflym fel hylif.

23 Ionawr 2015​—Neuadd Breswyl A

Tîm tad a merch yn gosod y ceblau fydd yn mynd â thrydan i’r neuaddau preswyl.

6 Chwefror 2015​—Adeilad Trwsio Cerbydau

Mae eisiau bwyd ar y gweithwyr. Darperir mwy na 2000 o brydau bwyd bob dydd yn y ffreutur dros-dro.

12 Chwefror 2015​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Criw yn gosod barau atgyfnerthu yn llawr yr adrannau cynnal a chadw.

12 Chwefror 2015​—Neuadd Breswyl C

Llythyrau oddi wrth blant yn diolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith. Daw llawer o’r gwirfoddolwyr am gyfnodau byr yn unig. Mae tua 500 o weithwyr newydd yn cyrraedd bob wythnos. Ym mis Chwefror, roedd tua 2,500 yn gweithio ar y safle bob dydd.

24 Chwefror 2015​—Safle Warwick

Erbyn hyn, mae tua 60 y cant o’r gwaith wedi ei gwblhau. Rhwng Ionawr ac Ebrill 2015, cwblhawyd waliau a thoeau’r neuaddau preswyl a fframwaith dur y Swyddfeydd. Dechreuodd y gwaith i osod paneli concrit ar yr Adeilad Cynnal a Chadw, i adeiladu llwybrau sy’n cysylltu’r neuaddau preswyl, ac i drwsio’r argae yn Llyn Sterling Forest (Blue Lake).

25 Chwefror 2015​—Swyddfeydd

Edrych i fyny tŵr grisiau. Contractwyr a wnaeth y gwaith ffurfio ar gyfer y tŵr hwn, ond gwirfoddolwyr o blith y Tystion a dywalltodd y concrit.

26 Chwefror 2015​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Criw yn gosod barau atgyfnerthu ar gyfer y llawr gwaelod ar ddiwrnod oer. Cafwyd bron i 127 centimetr (50 modfedd) o eira yn Warwick rhwng Ionawr a Mawrth. Roedd criwiau’n gweithio i glirio’r eira, ac roedd llefydd arbennig i’r gweithwyr gynhesu.

12 Mawrth 2015​—Parcio i Breswylwyr

Gosod haenau metel ar y cyplau to. Erbyn diwedd mis Ebrill, roedd y rhan fwyaf o’r toeau â thalcen yn eu lle. Bydd to Neuadd Breswyl B wedi ei orffen erbyn canol mis Mehefin.

18 Mawrth 2015​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Golygfa o Neuadd Breswyl B o ben craen.

18 Mawrth 2015​—Adeilad Cynnal a Chadw/Parcio i Breswylwyr

Astudio cynlluniau plymwaith yn yr adeilad Parcio i Breswylwyr. Mae angen dros 3,400 o luniadau adeiladu ar gyfer y prosiect cyfan.

23 Mawrth 2015​—Swyddfeydd

Gweithwyr ar ben craen yn diogelu’r adeilad â llen blastig. Mae llu o gyrsiau hyfforddi yn sicrhau bod pobl yn defnyddio offer yn ddiogel. Yn eu plith, y mae cyrsiau ymgyfarwyddo, a chyrsiau ar ddefnyddio peiriannau codi a pheiriannau anadlu, ar atal pobl rhag syrthio, ar godi a symud offer trwm, ac ar gyfathrebu drwy roi arwyddion.

30 Mawrth 2015​—Safle Warwick

Edrych i’r gorllewin i gyfeiriad y neuaddau preswyl. Erbyn diwedd mis Ebrill, roedd gwaith sylweddol ar y gweill ar systemau mecanyddol a thrydanol yn Neuaddau Preswyl A, B, a D, fel y gwelir yn y llun hwn. Yn Neuadd Breswyl C (nas gwelir yn y llun hwn), roedd gwaith wedi dechrau i osod plastrfwrdd, teilsio, a pheintio.

15 Ebrill 2015​—Neuadd Breswyl B

Dau weithiwr mewn bwced craen yn peintio haenen ar y waliau allanol sy’n atal aer rhag mynd drwyddi, ond sy’n caniatáu i leithder anweddu. Mae’n cymryd tua dau fis i drin pob neuadd breswyl.

27 Ebrill 2015​—Swyddfeydd

Seiri yn codi wal o wenithfaen. Yn y rhan hon o’r adeilad bydd man llwytho a swyddfeydd.

30 Ebrill 2015​—Safle Warwick

Deifiwr yn tynnu hen falf a gosod un newydd yn Blue Lake. Wrth bwyso botwm, gellir rheoli lefel y dŵr yn y llyn pe bai corwynt yn digwydd.